



Yn barod i adrodd dy stori – dy ffordd di?
Ymunwch â ni yr haf hwn am bythefnos o ffilmio ymarferol lle byddwch yn ysgrifennu, ffilmio ac yn golygu eich ffilm fer eich hun – yng nghalon De-Orllewin Cymru.
P'un a ydych chi'n codi camera am y tro cyntaf neu eisoes yn creu ffilmiau ar eich ffôn, dyma'ch cyfle i ddysgu'r grefft, darganfod eich llais, a chreu rhywbeth go iawn.
Bydd ein Gwersyll Ffilm Yr Haf 2025 ar gyfer oedrannau 12-16 a 17-22 yn cael ei gynnal yn Yr Egin; canolfan greadigol a digidol wedi'i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Mae'r Egin yma i "wasanaethu Cymru, ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, a meithrin talent ar gyfer y dyfodol" - y lle perffaith i gychwyn eich gyrfa gwneud ffilmiau.

Ready to tell your story - your way?
Join us this summer for two weeks of hands-on filmmaking where you’ll write, shoot, and edit your own short film — all in the heart of South-West Wales.
Whether you're picking up a camera for the first time or already making films on your phone, this is your chance to learn the craft, find your voice, and create a film for the big screen.
This year’s Filmmaking Summer Camp is for ages 12-17 and will take place at Yr Egin; a creative and digital centre based on the University of Wales Trinity Saint David campus in Carmarthen. Yr Egin is here to “serve Wales, inspire creativity and imagination, and foster talent for the future” - the perfect place to kickstart your filmmaking career.







Yn cael ei gynnal rhwng yr 11eg – 15fed a’r 18fed – 22ain o Awst, mae ein cwrs dwys deuddydd wythnos wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch i’r rhai sydd yn gwbl newydd i ffilmio, yn ogystal â’r rhai sydd am fireinio eu crefft neu fynd â hi gam ymhellach. Mae’r tiwtoriaid ar y cwrs yn weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n weithredol yn y diwydiant Ffilm a Theledu, gyda phrofiad eang o wneud a dysgu ffilm dros y degawd diwethaf.
Y ffordd orau o ddysgu sut i wneud ffilmiau, yw trwy eu gwneud. Y ffordd gyflymaf o ddysgu, yw trwy weld prosiect yn dod yn fyw o’r syniad cyntaf i’r cynnyrch gorffenedig. Bydd y cyfranogwyr yn cydweithio i greu’r stori, cynllunio’r cynhyrchiad, ffilmio’r ffilm ac yna ei golygu yn ei chyfanrwydd – i’w dangos i gynulleidfa ar sgrin sinema Yr Egin ar noson Awst 22ain.
“Rwyt ti’n dysgu’r mwyaf wrth wylio dy ffilm o flaen cynulleidfa.”
Bydd y gwersyll ffilmio haf yn cynnwys sgiliau fel adrodd straeon, ysgrifennu, gwaith tîm, arweinyddiaeth, trefnu, rheoli amser, sgiliau technegol a golygu. Bydd y cwrs dwys yn rhoi’r hyder i gyfranogwyr barhau i greu ar ôl y cwrs, ehangu eu portffolio ar gyfer ceisiadau coleg a phrifysgol, ac yn gam cyntaf tuag at yrfa bosib yn y maes.


From August 17th - 21st and 24th - 28th, our 2 week crash-course is designed to be accessible for both those new to filmmaking, and those looking to explore their craft further.
The course tutors are professionals currently working in the Film & TV industry with a broad range of experience in making films and teaching film over the last decade.
The best way to learn how to make films, is to make them. The fastest way to learn, is to see a project through from conception to completion. Participants will work together to craft the story, plan the production, shoot the film and edit it all together ready to show to an audience in Yr Egin’s cinema screen on the evening of August 28th.
“You learn the most when watching your film in front of an audience.”
The filmmaking summer camp will cover skills such as storytelling, writing, teamwork, leadership, organising, time management, technical skills, editing and marketing.
Participants will gain the confidence and tools to continue creating after the course, expand their portfolio for college & university applications and provide a first step in navigating a potential career.




Adam Holt
O Lanelli, astudiodd astudiaethau ffilm yng Ngholeg Sir Gâr (campws y Graig) a cherflunio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Awdur, dylunydd cynhyrchu, fideo-graffydd a golygydd. Dwy flynedd o greu cynnwys fideo ar gyfer Beicio Cymru.
From Llanelli, film studies at Coleg Sir Gar, Graig and sculpting at UWTSD Carmarthen. Writer, production designer, videographer, editor. 2 years as video content creation for Welsh Cycling.



Ioan Ings
O Gwmffrwd, cyn-fyfyriwr Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Cynhyrchydd, fideo-graffydd, ffotograffydd a golygydd. Cyd-gynhyrchydd ffilm nodwedd “The Mill Killers” gan Melyn Pictures.
From Cwmffrwd, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Producer, videographer, photographer, editor. Co-produced Melyn Pictures' feature film "The Mill Killers".

Tom Gripper
O Glan-Y-Fferi, cyn-fyfyriwr Ysgol Uwchradd Frenhines Elisabeth. Cynhyrchydd, awdur, cyfarwyddwr a golygydd. Cynhyrchydd y ffilm nodwedd “Protein” gan Broadside Films.
From Ferryside, Queen Elizabeth High School. Producer, writer, director, editor. Produced Broadside Films' feature film "Protein".

Aled Owen
O Gaerfyrddin, cyn-fyfyriwr Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Awdur, cyfarwyddwr, cynhyrchydd. Awdur a chyfarwyddwr ffilm nodwedd “The Mill Killers” gan Melyn Pictures.
From Carmarthen, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Writer, director, producer. Writer/director of Melyn Pictures' feature film, "The Mill Killers".




CWRDD Â'R TIWTORIAID
MEET THE TUTORS


What the filmmakers made in 2025...
15 filmmakers aged 12-22
took on the 2 week filmmaking summer camp in 2025 resulting in 'Farmed and Dangerous' a ten minute short film completely produced by the young people involved in the camp.
Mae'r cwrs yn nawr rhad ac am ddim! Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
The full two week course is now completely free. for a place. Please speak to us for more information.
I wneud cais am le ar y Gwersyll Ffilm yr Haf, dilynwch y ddolen i wneud cais cyn Awst 6ed.
Register your interest here as the first step to securing a place on the camp!
Am unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost - summer.camp@broadsidefilms.co.uk
For any enquiries, please email - summer.camp@broadsidefilms.co.uk
August 17-28th August 2026
Yr Egin, Carmarthen
Spaces are limited
— register your interest now to secure your place!







